People, Place & Planet
Landscape, ecology, culture and people are embedded at the heart of everything we do. The Wye Valley River Festival CIC is committed to delivering excellence and providing the very best opportunities for everyone to engage with the arts, the environment, and their own creativity and expression.
We wish to inspire individuals, community groups and the professional artists and companies of the Wye Valley region. We bring renowned arts professionals to the region to co-create work. We deliver a biennial nationally-renowned arts and environment festival showcasing thought-provoking, responsive work in the outdoors.
We believe in building effective collaborations and creative partnerships with individuals, organisations, agencies and stakeholders in order to achieve shared goals. We foster strong relationships to enhance the regional knowledge bank for developing artistic excellence, offering opportunities to refresh artistic practice and environmental thinking. We are developing a year-round programme of community engagement, youth participation and local capacity building to strengthen the local cultural ecology.
Pobl, Planed a Lle
Mae tirwedd, ecoleg, diwylliant a phobl wrth wraidd popeth a wnawn. Mae Wye Valley River Festival CIC wedi ymrwymo i gyflawni rhagoriaeth a chreu’r cyfleoedd gorau posibl i bawb ymgysylltu â’r celfyddydau, yr amgylchedd, a’u creadigrwydd a mynegiant eu hunain.
Hoffem ysbrydoli unigolion, grwpiau cymunedol ac artistiaid a chwmnïau proffesiynol rhanbarth Dyffryn Gwy. Rydym yn denu gweithwyr celfyddydol proffesiynol adnabyddus i’r rhanbarth i greu gwaith ar y cyd. Rydym yn cynnal gŵyl gelfyddydol ac amgylcheddol, sy’n adnabyddus yn genedlaethol, bob yn ail flwyddyn gan arddangos gwaith ymatebol sy’n ysgogi meddwl yn yr awyr agored.
Credwn mewn creu cydweithrediadau effeithiol a phartneriaethau creadigol ag unigolion, sefydliadau, asiantaethau a rhanddeiliaid er mwyn cyrraedd nodau a rennir. Rydym yn meithrin perthnasoedd cryf i wella’r gronfa wybodaeth ranbarthol er mwyn datblygu rhagoriaeth artistig, gan gynnig cyfleoedd i adnewyddu ymarfer artistig a meddwl amgylcheddol. Rydym yn datblygu rhaglen blwyddyn gron o ymgysylltu cymunedol, cyfranogiad ieuenctid ac adeiladu capasiti lleol er mwyn cryfhau’r ecoleg ddiwylliannol leol.




You must be logged in to post a comment.