Everyone is welcome! Mae croeso i bawb!
We are working to make the festival accessible and open to all.
Because the Festival is based in the outdoors and nature, we are working with our partners to find physical and other access solutions to using some of these sites.
Most of our main events are in town centres on wheelchair accessible sites. Please see below for more details of access provision, including Sign Language Interpreted shows.
Rydym yn gweithio i wneud yr ŵyl yn hygyrch ac yn agored i bawb.
Gan fod yr Ŵyl wedi’i lleoli yn yr awyr agored ac ym myd natur, rydym yn gweithio gyda’n partneriaid i ddod o hyd i ddatrysiadau corfforol a datrysiadau mynediad eraill ar gyfer defnyddio rhai o’r safleoedd hyn.
Cynhelir ein prif ddigwyddiadau yng nghanol trefi ar safleoedd sy’n hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn. Gweler y nodiadau isod am fwy o fanylion, gan gynnwys sioeau wedi’u dehongli gan Iaith Arwyddion.
Transport / Trafnidiaeth
Wye Valley is a rural area with limited public transport or public parking. We ask that you walk, cycle or car share to events if practical and park responsibly. We have included some travel links to help you plan your visit:
Mae Dyffryn Gwy yn ardal wledig heb lawer o drafnidiaeth gyhoeddus na pharcio cyhoeddus. Gofynnwn ichi gerdded, beicio neu rannu car wrth deithio i’r digwyddiadau os oes modd, ac i barcio’n gyfrifol. Rydym wedi cynnwys dolenni teithio i’ch helpu i gynllunio’ch ymweliad:
- Wye Valley Tourist Information and Travel Guide
- Stage Coach (coach services serving local towns)
- Bus timetables in Monmouthshire
- Bus timetables in Herefordshire
- Visit Monmouthshire
- Cycling in Herefordshire
Making our work more accessible / Wneud ein gwaith yn fwy hygyrch.
We aim to:
- Move to a model where we only deliver work to audiences in physically accessible locations. As we work towards this, we strive to make adaptations in inaccessible locations.
- Provide Sign Language Interpreters (BSL) for some shows. We want to increase this in the future.
- Extend our outreach and inclusion programme to broaden access, working with partners and specialist organisations year-round.
- Improve the accessibility of our website.
- Programme relaxed performances as much as possible.
- Provide activities for free or for a low ticket price.
- Welcome assistance and other dogs on our sites (unless specifically stated otherwise.)
- Symud at ddefnyddio model lle rydym ond yn cyflwyno gwaith i gynulleidfaoedd mewn lleoliadau sy’n hygyrch yn gorfforol. Wrth inni symud at wireddu’r nod hwn, gwneud addasiadau lle bo’n bosibl mewn lleoliadau anhygyrch.
- Darparu Dehonglwyr Iaith Arwyddion (BSL) ar gyfer rhai o’r sioeau. Hoffem ddatblygu’r ddarpariaeth hon yn y dyfodol.
- Estyn ein rhaglen allgymorth a chynhwysiant er mwyn sicrhau ein bod ni’n ehangu mynediad, gan weithio gyda phartneriaid a sefydliadau arbenigol trwy gydol y flwyddyn.
- Gwella ein gwefan fel ei bod yn fwy hygyrch.
- Rhaglennu cynifer o berfformiadau hamddenol ag sy’n bosibl.
- Darparu gweithgareddau yn rhad ac am ddim neu am bris tocyn rhad.
- Croesawu cŵn cymorth a chŵn eraill i’n safleoedd (oni nodir yn benodol fel arall).
If there are ways in which you think we could improve or would like to offer support please get in touch.
Os oes ffyrdd y gallwn ni wella neu os hoffech gynnig cymorth inni, cysylltwch â ni.